Y Pwyllgor Menter a Busnes
Dyddiad: 12 Hydref 2011
Amser: 10:00 – 11:00
Lleoliad: Y Senedd
Teitl: Y Gyllideb Ddrafft Addysg a Sgiliau ar gyfer 2012-13
Diben
1. Darparu papur tystiolaeth i'r Pwyllgor Menter a Busnes am y gyllideb Addysg a Sgiliau, ac am y blaenoriaethau yn y maes hwnnw ar gyfer 2012-13.
Yr
amserlen
2. Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ar 4 Hydref 2011.
Y Gyllideb
Ddrafft Addysg a Sgiliau ar gyfer 2012-13
3. Mae Cyllideb Ddrafft 2012-13 yn gynllun tair blynedd ar gyfer buddsoddi mewn addysg a sgiliau yng Nghymru. Mae Tabl 1 yn drosolwg o’r gyllideb arfaethedig neu’r 'prif grŵp gwariant' (MEG), ac mae hefyd yn dangos y newidiadau a wnaed i'r gyllideb ddangosol ers i'r Gyllideb Atodol ddiwethaf gael ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2011 (a oedd yn ailddatgan y gyllideb Addysg a Sgiliau gan ystyried newidiadau a wnaed i bortffolios ers y Gyllideb Derfynol).
Tabl 1: Y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Addysg a Sgiliau
|
2011-12 |
2012-13 |
|
2012-13 |
2013-14 |
|
2013-14 |
2014-15 |
|
2014-15 |
|
Y Gyllideb Atodol Mehefin 2011 |
Y Gyllideb Atodol (Ddangosol) |
Newidiadau |
Y Gyllideb Ddrafft |
Y Gyllideb Atodol (Ddangosol) |
Newidiadau |
Y Gyllideb Ddrafft |
Y Gyllideb Atodol (Ddangosol) |
Newidiadau |
Y Gyllideb Ddangosol |
|
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) Refeniw |
1,630,201 |
1,627,590 |
20,590 |
1,648,180 |
1,647,634 |
27,190 |
1,674,824 |
1,647,634 |
34,825 |
1,682,459 |
DEL Cyfalaf |
169,973 |
161,343 |
0 |
161,343 |
143,834 |
0 |
143,834 |
143,834 |
0 |
143,834 |
Cyfanswm y DEL |
1,800,174 |
1,788,933 |
20,590 |
1,809,523 |
1,791,468 |
27,190 |
1,818,658 |
1,791,468 |
34,825 |
1,826,293 |
Gwariant a Reolir yn Flynyddol |
125,302 |
122,312 |
28,213 |
150,525 |
112,009 |
49,276 |
161,285 |
112,009 |
41,301 |
153,310 |
CYFANSWM Y GYLLIDEB |
1,925,476 |
1,911,245 |
48,803 |
1,960,048 |
1,903,477 |
76,466 |
1,979,943 |
1,903,477 |
76,126 |
1,979,603 |
4. Mae cynnydd o £20.6 miliwn, neu 1.3%, yn y cyllid refeniw ar gyfer
2012-13 o'i gymharu â'r gyllideb ddangosol. Mae cynnydd yn y cyllidebau
dangosol ar gyfer y blynyddoedd a ddaw hefyd, £27.2 miliwn (1.65%) yn
2013-14 a £34.8 miliwn (2.1%) yn 2014-15 .
5. Nid yw'r gyllideb cyfalaf wedi newid ers y gyllideb ddangosol. Mae'n gostwng i £143.8 miliwn erbyn 2013-14 o'i chymharu â'r gyllideb bresennol o £169.9 miliwn. Mae pob prosiect a gymeradwywyd yn mynd rhagddo. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
6. Cafwyd cyllid ychwanegol o £22.3 miliwn o'r Gronfa Cyfalaf wrth Gefn Ganolog (CRC) ar gyfer 2011-12. Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiectau Porth y Cymoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Dinefwr ac Ardal Ddysgu Merthyr. Bydd yr Adran yn gwneud cais am gyllid ychwanegol o'r Gronfa Cyfalaf wrth Gefn Ganolog (CRC) ar gyfer y blynyddoedd a ddaw unwaith y bydd y cyllid hwnnw ar gael.
7. Mae'r gyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) yn ymwneud yn gyfan gwbl â benthyciadau i fyfyrwyr. Mae'r benthyciadau hyn yn dibynnu ar y galw ac mae cyfraddau llog a ffactorau macro-economaidd eraill yn effeithio arnynt. Mae'r cynnydd o £28.2 miliwn yn gysylltiedig yn bennaf â'r cynnydd a ragwelir mewn benthyciadau newydd. Cytunir ar y gyllideb hon gyda'r Trysorlys bob blwyddyn. Rhagamcanion ar sail yr amcangyfrifon diweddaraf yw'r ffigurau o £150.5m ar gyfer 2012-13, a chymerir y byddant yn cael eu hariannu'n llawn gan y Trysorlys.
Cyd-destun y Gyllideb
8. Mae'r gyllideb hon yn cael ei phennu yng nghyd-destun y cyfyngiadau a osodwyd gan Lywodraeth y DU yn ystod y cylch cynllunio diwethaf, ond rydym, er hynny, am wireddu'r ymrwymiadau a wnaed yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhaglen ddeddfwriaethol, megis y Bil Ysgolion a Safonau. Yn ystod y gyllideb ddiwethaf, gwelwyd gostyngiad o £21.1 miliwn mewn cyllid refeniw ar gyfer 2011-12 o'i gymharu â'r lefelau yn 2010-11. Mae llawer o'r cyllidebau dangosol a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Chwefror yn ddigyfnewid yn y Gyllideb hon. Serch hynny, mae cyllid ychwanegol yn y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Addysg a Sgiliau ar gyfer:
· Twf Swyddi Cymru,y cyntaf o'r addewidion “pump am ddyfodol tecach” a wnaed gan Lywodraeth Cymru (£12.5m);
· Gwariant rheng flaen mewn ysgolion – byddwn yn parhau â’n cynlluniau blaenorol i gynyddu cyllidebau ysgolion 1% yn fwy na’r newidiadau cyffredinol yng nghyllideb Cymru yn ei chyfanrwydd ar gyfer 2012-13 a 2013-14, a byddwn yn gwneud hynny yn 2014-15 hefyd (£4.6 miliwn);
· Rhaglen ADAPT – byddwn yn parhau â rhaglen ADAPT sy’n helpu gweithwyr y sector cyhoeddus sy’n colli eu gwaith i ddychwelyd i’r gwaith neu ddechrau eu busnesau eu hunain (£5 miliwn);
· Llaeth a Brecwast am Ddim mewn Ysgolion – bydd yr ymrwymiad i'r rhaglenni cyflawni hwn yn parhau;
· Cyllid i Fyfyrwyr - o'r flwyddyn academaidd 2012-13 ymlaen bydd myfyrwyr rhan amser ym maes Addysg Uwch yn cael manteisio ar yr un pecyn cyllid i fyfyrwyr â myfyrwyr llawnamser (£4.3 miliwn/£10.9 miliwn/£13.8 miliwn).
9. Aed ati, wrth bennu'r gyllideb, i ailflaenoriaethu cyllidebau dros £17.6 miliwn: a hynny er mwyn gwireddu addewidion eraill yn y Rhaglen Lywodraethu megis sefydlu cymhwyster Gradd Meistr ar gyfer athrawon a datblygu amgylchedd dysgu rhithwir ym mhob ysgol; a chyfeirio mwy o gyllid i'r rheng flaen drwy gyfrwng y Grant Effeithiolrwydd Ysgolion.
10. Wrth bennu'r gyllideb hon, mae'r Adran wedi ystyried ac asesu effeithiau'r newidiadau ar y sefydliadau y byddant yn effeithio arnynt ac, yn bwysicach fyth, ar y dysgwyr a'r deilliannau dysgu. Aed ati’n ofalus i ystyried yr effeithiau ar gydraddoldeb a’r angen i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol yn fwy cyffredinol. Wrth asesu'r penderfyniadau a wnaed i ostwng cyllidebau yn y gyllideb ddrafft, barnwyd nad ydynt yn effeithio mewn ffordd anghymesur ar y grwpiau penodol ar sail oedran, anabledd, rhyw ac ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Byddwn yn parhau i adolygu'r effaith a gaiff cyllidebau ar gydraddoldeb, a byddwn yn gwneud hynny hefyd wrth ddyrannu cyllid ar gyfer rhaglenni penodol, ac i i gyrff allanol.
11. Ad-drefnwyd strwythur cyfrifydda'r Prif Grŵp Gwariant (MEG) Addysg a Sgiliau er mwyn sicrhau bod yr adnoddau a ddarperir yn cyd-fynd â’r canlyniadau strategol y mae’r adrannau am eu gweld, ac er mwyn sic cyllidebau'n fwy clir. Mae'r cynlluniau cyllidebu ar lefel Gweithredu i'w gweld yn Atodiad 1 fel y'u cyhoeddwyd ar 4 Hydref, ac mae manylion Llinellau Gwariant y Gyllideb i'w gweld yn Atodiad A.
Crynodeb o’r Newidiadau i’r Gyllideb
12.Ceir crynodeb isod o'r newidiadau i bob cyllideb ar lefel Gweithredu.
· Safonau Addysg a Hyfforddiant - Cyllideb 2012-13 £1,145.5 miliwn
"Codi safonau addysg a hyfforddiant, cyrhaeddiad a seilwaith ledled Cymru er mwyn i bawb fedru cyrraedd ei botensial."
Llythrennedd a Rhifedd: Cyllideb 2012-13 £5.5 miliwn
13. Yn unol â bwriad Llywodraeth Cymru i hoelio'i sylw ar wella safonau addysgol, a safonau llythrennedd a rhifedd yn benodol, yn 2011-12, rydym wedi trosglwyddo symiau o fewn y gyllideb er mwyn creu cyllideb benodol ar gyfer Llythrennedd a Rhifedd. Mae'r symiau yr oedd angen eu trosglwyddo i'w gweld yn y gyllideb ar ffurf trosglwyddiadau o un BEL i'r llall. Mae cyllid gwerth £7 miliwn ar gyfer Llythrennedd a Rhifedd mewn Ysgolion wedi'i ailgyfeirio i'r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion. Yn yr un modd, cafodd swm o £1.1 miliwn ei drosglwyddo i'r gyllideb Cyflogadwyedd y Gweithlu ar gyfer oedolion. Trosglwyddwyd swm o £2.2 miliwn o'r gyllideb Cyfleoedd Mynediad, sy'n ymwneud â chyllid a oedd yn cael ei gysylltu yn y gorffennol â rhaglenni llythrennedd a rhifedd ar gyfer teuluoedd sy'n rhan o'r rhaglen Cymorth, sy'n parhau i ddod o dan y portffolio Addysg a Sgiliau.
14. Mae hyn yn golygu mai'r llinell sylfaen ar gyfer 2011-12 yw £3.512 miliwn ac y bydd cynnydd o £4 miliwn yn y gyllideb Llythrennedd a Rhifedd erbyn 2014-15 o'i gymharu â'r lefelau gwariant arfaethedig yn 2011-12 .
Y Cwricwlwm: Cyllideb 2012-13 £123.3 miliwn
15. Mae gostyngiad o £4.2 miliwn yn y gyllideb. Bydd modd gwneud arbedion gwerth £3.368 miliwn yn y gyllideb Dysgu 14-19 yn 2012-13 drwy ddarparu llwybrau dysgu 14-19 ar sail ranbarthol. Bydd yr arbedion hyn yn codi i £4.611 miliwn yn 2013-14.
Addysgu ac Arweinyddiaeth: Cyllideb 2012-13 £20 miliwn
16. Daethpwyd o hyd i swm ychwanegol o £0.5m drwy ailflaenoriaethu yn y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Addysg a Sgiliau er mwyn darparu cyllid i dreialu ffyrdd mwy hyblyg o ddarparu hyfforddiant i athrawon sy'n gysylltiedig â'n blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion. Mae'r swm hwn yn codi i £1.1 miliwn yn 2013-14 ac £1.3 miliwn yn 2014-15.
17. Llwyddwyd i ad-drefnu ymhellach o dan y Cam Gweithredu hwn drwy ailgyfeirio adnoddau o nifer o raglenni datblygu llai a thrwy gwtogi ar nifer y lleoedd hyfforddiant cychwynnol i athrawon. O'r herwydd, bydd modd dyrannu swm o oddeutu £4 miliwn er mwyn helpu i ddatblygu cymhwyster lefel Gradd Meistr ar gyfer athrawon, sy'n un o'r addewidion allweddol eraill yn y Rhaglen Lywodraethu.
Cymwysterau: Cyllideb 2012-13 £13.6 miliwn
18. Mae arbedion gwerth £1.7 miliwn mewn cyllidebau sy'n ddibynnol ar y galw ar gael bellach i'w hailfuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen eraill.
Addysg Ôl-16 Cyllideb 2012-13 £551.2 miliwn
19. Mae'r gyllideb hon yn darparu cyllid y brif ffrwd ar gyfer dosbarthiadau chwech mewn ysgolion, ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned. I bob pwrpas, nid oes unrhyw newid ers y gyllideb ddangosol. O'i gymharu â'r lefelau yn 2011-12, bydd cynnydd o £16 miliwn (2.9%) yn ystod y cyfnod cynllunio. Mae'r gyllideb ddangosol ar gyfer Addysg Bellach yn rhyw £320 miliwn yn 2012-13 ac yn £325 miliwn yn 2013-14, ac mae’n cynnwys Cymraeg i Oedolion ac AB mewn darpariaeth Addysg Uwch. Mae cyllidebau dangosol ar gyfer 2013-14 wedi'u cyflwyno yn 2014-15 yn y gyllideb ddrafft. Mae gostyngiad bach o £0.1 miliwn yn y BEL Datblygu Polisi AB am fod rhaglenni wedi dod i ddiwedd eu hoes.
Addysg Uwch: Cyllideb 2012-13 £380.4 miliwn
20. Nid oes unrhyw newidiadau arfaethedig i'r cyllidebau dangosol ar gyfer Addysg Uwch. Mae'r newidiadau i'r model ariannu addysg uwch yn cael eu gwneud gan gadw at y cynlluniau sy'n bodoli eisoes.
Strwythurau Addysg: Cyllideb 2012-13 £3.9 miliwn
21. Mae'r gyllideb hon yn gysylltiedig â'r agenda trawsnewid. Nid oes unrhyw newidiadau arfaethedig.
Safonau Addysg: Cyllideb 2012-13 £39.9 miliwn
22. Drwy sefydlu cyllideb benodedig ar gyfer Llythrennedd a Rhifedd yn
2011-12, bydd swm ychwanegol o £7 miliwn yn cael ei gyfeirio at yr ysgolion drwy gyfrwng y Grant Effeithiolrwydd Ysgolion (GEY) yn ystod y flwyddyn gyfredol. Yn ogystal, drwy nodi arbedion ac ailflaenoriaethu adnoddau o gyllidebau eraill yn y Prif Grŵp Gwariant (MEG), llwyddwyd i sicrhau cynnydd sylweddol yn y cyllid a roddir i awdurdodau lleol drwy'r GEY. Mae hyn yn golygu bod cynnydd pellach o £7.552 miliwn yn 2012-13, £13.195 miliwn yn 2013-14 a £17.595 miliwn yn 2014-15. Hefyd, mae'r cyllid ar gyfer diogelu cyllidebau ysgolion yn cael ei ymestyn i 2014-15.
TGCh a Systemau Rheoli Gwybodaeth: Cyllideb 2012-13 £7.5 miliwn
23. Nid oes bwriad i newid y gyllideb ddangosol. Serch hynny, drwy
ailflaenoriaethu o fewn y gyllideb hon, llwyddwyd i nodi swm o hyd at £0.5
miliwn er mwyn mynd ati i ystyried y posibiliadau ar gyfer datblygu
amgylchedd dysgu rhithwir ar gyfer ysgolion, sy'n un o'r ymrwymiadau
eraill a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu.
· Gweithlu Medrus – Cyllideb 2012-13 £82.4m
"Sicrhau bod gennym weithlu sy'n meddu ar y sgiliau priodol a bod cyfleoedd o ansawdd uchel ar gael i bob dysgwr."
Sgiliau yn y Gweithle: Cyllideb 2012-13 £27.8 miliwn
24. Mae £5 miliwn yn ychwanegol ar gael ym mhob blwyddyn er mwyn parhau â rhaglen ADAPT, sy’n helpu gweithwyr y sector cyhoeddus sy’n colli eu gwaith i ddychwelyd i’r gwaith neu i ddechrau eu busnesau eu hunain. Crëwyd cyllideb o £3 miliwn ar gyfer Sgiliau Twf drwy ailflaenoriaethu adnoddau o fewn y Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL), a throsglwyddwyd swm o£1.35 miliwn hefyd o'r BEL Cyflogadwyedd.
Cyflogadwyedd: Cyllideb 2012-13 £18.7 miliwn
25. Bydd y gyllideb hon yn elwa ar gyllid ychwanegol o £12.5 miliwn y flwyddyn er mwyn creu Twf Swyddi Cymru, a disgwylir y bydd swm pellach o £12.5 miliwn ar gael o Gronfa Gymdeithasol Ewrop ar ffurf arian cyfatebol. Mae swm pellach o £1.1 miliwn yn cael ei drosglwyddo i'r gyllideb hon hefyd ar gyfer Llythrennedd a Rhifedd oedolion. Mae hyn yn cael ei wrthbwyso drwy drosglwyddo swm rheolaidd o £1 miliwn i'r Prif Grŵp Gwariant (MEG) Busnes, Menter a Thechnoleg ar gyfer yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol, yn ogystal â swm o £1.35 miliwn a drosglwyddwyd i'r Cam Gweithredu Sgiliau yn y Gweithle er mwyn creu'r gyllideb Sgiliau Twf.
Dewis Addysgol a Gyrfaoedd: Cyllideb 2012-13 £36 miliwn
26. Nid yw cyllideb y Gwasanaeth Gyrfaoedd ar gyfer 2012-13 wedi newid ers y cyllidebau dangosol. Bydd gostyngiad pellach o £5 miliwn o 2013-14 ymlaen, a disgwylir y bydd modd sicrhau'r arbedion hyn drwy ad-drefnu'r modd y bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cael ei ddarparu ar ôl yr adolygiad o gwmpas y gwasanaethau a sut y maent yn cael eu darparu.
· Lles Economaidd a Chymdeithasol a Lleihau Anghydraddoldeb - Cyllideb 2012-13 £390.8 miliwn
"Helpu unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau i wella lles economaidd a chymdeithasol ac i leihau anghydraddoldeb drwy addysg a hyfforddiant."
Cyfleoedd Mynediad: Cyllideb 2012-13 £4.9 miliwn
27. Mae gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer Cefnogi Pobl Ifanc am fod swm o £2.259 miliwn wedi'i drosglwyddo i'r gyllideb Llythrennedd a Rhifedd. Mae'r swm a drosglwyddwyd yn gysylltiedig â rhaglenni llythrennedd a rhifedd i deuluoedd, a oedd gynt yn rhan o'r rhaglen Cymorth.
Lles Plant a Phobl Ifanc Cyllideb 2012-13 £62.6 miliwn
28. Mae swm o £0.21 miliwn wedi cael ei drosglwyddo o'r gyllideb hon i'r Prif Grŵp Gwariant (MEG) Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu yn sgil newidiadau o ran pwy sy’n gyfrifol am Dribiwnlys AAA Cymru. Nodwyd arbedion effeithlonrwydd gwerth £2 miliwn yn y gyllideb Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac mae'r cyllid hwn wedi'i ailgyfeirio i AAA Ôl-16 o fewn y Cam Gweithredu hwn er mwyn ymdopi â phwysau posibl ar y gyllideb honno, sy'n ddibynnol ar y galw.
Cymorth i Ddysgwyr Ôl-16: Cyllideb 2012-13 £310.9 miliwn
29. Gan fod bwriad i gynnig yr un pecyn cymorth i fyfyrwyr rhan amser ag a gynigir i fyfyrwyr llawnamser, bydd cyllid ychwanegol nad yw'n arian parod yn cael ei ddarparu o'r cronfeydd canolog at y diben hwn. Darperir swm o £4.3 miliwn yn 2012-13, a bydd hwn yn codi i £10.9 miliwn yn 2013-14 a £13.8 miliwn yn 2014-15.
Ennyn Diddordeb Disgyblion: Cyllideb 2012-13 £12.2 miliwn
30. Nid oes bwriad i newid y gyllideb ddangosol.
· Yr Iaith Gymraeg - Cyllideb 2012-13 £26.4 miliwn
"Gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru."
Dysgu Cymraeg: Cyllideb 2012-13 £12.4 miliwn
31. Nid oes bwriad i newid y gyllideb ddangosol hon.
Bwrdd yr Iaith Gymraeg: Cyllideb 2012-13 £13.9 miliwn
32. Nid oes bwriad i newid y gyllideb ddangosol hon. Er hynny, bydd newidiadau mawr yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei benodi, a Thribiwnlys y Gymraeg yn cael ei sefydlu, yn ogystal â system newydd o Safonau yn ymwneud â'r Gymraeg, a hawliau newydd ar gyfer pobl Cymru. Nid yw'r cynlluniau hyn yn derfynol eto ac o'r herwydd, nid ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn y cynigion hyn ar gyfer y gyllideb.
· Cymorth Cyflawni - Cyllideb 2012-13 £3.1 miliwn
"Mae adnoddau'n cael eu rheoli ac maent yn helpu i gyflawni
canlyniadau."
Cyfathrebu Strategol: Cyllideb 2012-13 £1.5 miliwn
33. Drwy graffu'n ofalus ar gyllidebau cyfathrebu a marchnata yr Adran Addysg a Sgiliau, llwyddwyd i ryddhau £1 filiwn i'w ailfuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen.
Ymchwil a Gwasanaethau Addysg : Cyllideb 2012-13 £1.6 miliwn
34. Bwriedir gwneud arbedion tebyg gwerth £1 filiwn yn y cyllidebau ymchwil a gwerthuso, a bydd y cyllid hwn yn cael ei ryddhau ar gyfer gwasanaethau rheng flaen.
Crynodeb
35. Cyflwynir y Gyllideb Ddrafft Addysg a Sgiliau ar gyfer 2012-13 i'w hystyried gan y pwyllgor.